Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Ionawr 2018
Amser:
09.22 -
12.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4528
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Emma Harris, Samaritans Carol Fradd, Samaritans Sharon Stirrup, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Darren Rennie, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Caren Weaver, Bwrdd lechyd Prifysgol Cwm Taf Dr Mark Griffiths, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Melanie Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Jonathan Drake, Heddlu De Cymru Nick McLain, Heddlu Gwent Alistair Mitchell, Heddlu De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David, nid
oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid. Cytunasant i anfon dau adroddiad at y Pwyllgor:
- Adolygiad a gyhoeddwyd yn The Lancet yn 2015 - Rhaglenni atal hunanladdiad yn yr ysgol: y prawf SEYLE ar hap o ran clwstwr, wedi'i reoli; ac
- Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd - Growing up unequal: gender and socioeconomic differences in young people's health and well-being.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng.
3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn ar gyfran y bobl ifanc sy'n dod gerbron y timau argyfwng yn y Byrddau Iechyd gwahanol sy'n aros am asesiad CAMHS neu sydd eisoes dan ofal CAMHS.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Heddlu Gogledd Cymru i geisio ei farn ar ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru a'i effaith ar waith yr heddlu.
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod.